top of page

Telerau Defnyddio

Telerau Defnyddio

 

Mae’r telerau a’r amodau hyn yn gymwys rhyngoch chi, Defnyddiwr y Wefan hon (gan gynnwys unrhyw is-wefannau, oni bai eu bod wedi’u heithrio’n benodol gan eu telerau ac amodau eu hunain) a Case-uk Limited, perchennog a gweithredwr y: Wefan hon.

 

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus, gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol. Tybir y bydd eich cytundeb i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn a’ch bod yn rhwym wrthynt yn weithredol o’r tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r Wefan. Os nad ydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r Wefan ar unwaith. Yn y telerau ac amodau hyn, mae Defnyddiwr neu Ddefnyddwyr yn golygu unrhyw drydydd parti sy’n defnyddio’r Wefan ac nad yw naill ai (i) yn cael ei gyflogi gan Case-uk Limited ac yn gweithredu yn ystod eu cyflogaeth neu (ii) yn gweithio fel ymgynghorydd neu fel arall yn darparu gwasanaethau i Case-uk Limited ac yn defnyddio’r Wefan mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau o’r fath. Rhaid i chi fod o leiaf 18 oed i ddefnyddio’r Wefan hon, drwy ddefnyddio'r Wefan hon a chytuno â’r telerau ac amodau hyn, rydych yn nodi ac yn gwarantu eich bod yn 18 oed o leiaf.

 

Eiddo deallusol a defnydd derbyniol

 

1. Mae’r holl Gynnwys sydd wedi’i gynnwys ar y Wefan, oni bai ei fod wedi’i lanlwytho gan Ddefnyddwyr, yn eiddo i Case- uk Limited, ein cwmnïau cysylltiedig neu drydydd partïon perthnasol eraill”. Yn y telerau ac amodau hyn, mae Cynnwys yn golygu unrhyw destun, graffeg, delweddau, sain, fideo, meddalwedd, casgliadau data, cynllun tudalen, cod a meddalwedd sylfaenol ac unrhyw fath arall o wybodaeth y gellir ei storio mewn cyfrifiadur sy’n ymddangos ar y Wefan hon neu’n ffurfio rhan ohoni, gan gynnwys unrhyw gynnwys o’r fath a lwythir i fyny gan Ddefnyddwyr. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan rydych yn cydnabod bod Cynnwys o’r fath yn cael ei warchod gan hawlfraint, nodau masnach, hawliau cronfa ddata a hawliau eiddo deallusol eraill. Ni ellir dehongli bod unrhyw beth ar y safle hwn yn rhoi, drwy oblygiad, estopel, neu fel arall, unrhyw drwydded neu hawl i ddefnyddio unrhyw nod masnach, logo neu nod gwasanaeth a arddangosir ar y safle heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y perchennog.

 

2. Gallwch, at eich defnydd anfasnachol personol eich hun, wneud y canlynol yn unig: a) adfer, arddangos a gweld y Cynnwys ar sgrin cyfrifiadur b) argraffu un copi o'r Cynnwys

 

 

3. Ni ddylech fel arall atgynhyrchu, addasu, copïo, dosbarthu na defnyddio unrhyw Gynnwys at ddibenion masnachol heb ganiatâd ysgrifenedig Case-uk Limited.

 

Defnydd gwaharddedig

 

4. Ni chewch ddefnyddio’r Wefan at unrhyw un o’r dibenion canlynol: a. mewn unrhyw ffordd sy’n achosi neu a allai achosi difrod i’r Wefan neu’n amharu ar ddefnydd neu fwynhad unrhyw berson arall o’r Wefan. b. mewn unrhyw ffordd sy’n niweidiol, yn anghyfreithlon, yn sarhaus, yn aflonyddu, yn fygythiol neu’n annerbyniol fel arall neu sy’n torri unrhyw gyfraith, rheoliad, gorchymyn llywodraethol perthnasol; c. Gwneud, trosglwyddo neu storio copïau electronig o Gynnwys a warchodir gan hawlfraint heb ganiatâd y perchennog.

 

Dolenni i Wefannau eraill

 

5. Gall y Wefan hon gynnwys dolenni at wefannau eraill. Oni nodir yn benodol, nid yw’r safleoedd hyn o dan reolaeth Case-uk Limited na rhai ein cwmnïau cysylltiedig.

 

6. Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb dros gynnwys ‘Gwefannau’ o’r fath ac rydym yn ymwrthod ag atebolrwydd am unrhyw fath o golled neu ddifrod sy’n deillio o’u defnyddio.

 

7. Nid yw cynnwys dolen i wefannau eraill ar y wefan hon yn awgrymu unrhyw gymeradwyaeth i’r safleoedd eu hunain nac i’r rhai sy’n eu rheoli.

 

Polisi Preifatrwydd a Chwcis

 

8. Mae defnyddio’r Wefan hefyd yn cael ei llywodraethu gan ein Polisi Preifatrwydd a’n Polisi Cwcis sy’n cael eu hymgorffori yn y telerau a’r amodau hyn drwy’r cyfeiriad hwn. I weld y Polisi Preifatrwydd a’r Polisi Cwcis, cliciwch ar y canlynol: Polisi Preifatrwydd a Pholisi Cwcis Argaeledd y Wefan ac ymwadiadau.

 

9. Darperir unrhyw gyfleusterau, offer, gwasanaethau neu wybodaeth ar-lein y mae Case-uk Limited yn eu darparu drwy’r wefan (y Gwasanaeth) “fel y mae” ac ar sail “fel y mae ar gael”. Nid ydym yn gwarantu y bydd y Gwasanaeth yn rhydd o ddiffygion a/neu wallau. I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn darparu unrhyw warant (penodol neu ymhlyg) o addasrwydd at ddiben penodol o ran cywirdeb gwybodaeth, cydnawsedd ac ansawdd boddhaol. Nid oes rheidrwydd ar Case-uk Limited i ddiweddaru gwybodaeth ar y Wefan.

 

10. Er bod Case-uk Limited yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wefan yn ddiogel ac yn rhydd rhag gwallau, firysau a maleiswedd arall, nid ydym yn rhoi unrhyw warant na sicrwydd yn hynny o beth ac mae pob Defnyddiwr yn cymryd cyfrifoldeb dros eu diogelwch eu hunain, eu manylion personol a’u Cyfrifiaduron.

 

11. Nid yw Case-uk Limited yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw darfu ar y Wefan neu am beidio â bod ar gael.

 

12. Mae Case-uk Limited yn cadw’r hawl i newid, atal neu derfynu unrhyw ran (neu’r cyfan) o’r Wefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw gynnyrch a/neu wasanaethau sydd ar gael. Bydd y telerau a’r amodau hyn yn parhau i fod yn berthnasol i unrhyw fersiwn addasedig o’r Wefan oni nodir yn benodol fel arall,

 

Cyfyngiad atebolrwydd.

 

13. Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn: (a) cyfyngu neu eithrio ein hatebolrwydd ni neu eich atebolrwydd chi am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod ni neu eich esgeulustod chi, fel y bo’n berthnasol; (b) cyfyngu neu eithrio ein hatebolrwydd ni neu eich atebolrwydd chi am dwyll neu gamliwio twyllodrus; neu (c) cyfyngu neu eithrio unrhyw rai o’n rhwymedigaethau ni neu eich rhwymedigaethau mewn unrhyw ffordd nad yw’n cael ei chaniatáu o dan y gyfraith berthnasol.

 

14. Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion sy’n deillio o ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

 

15. I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Case-uk Limited yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw un o’r canlynol: a. unrhyw golledion busnes, megis colli elw, incwm, refeniw, arbedion disgwyliedig, busnes, contractau, ewyllys da neu gyfleoedd masnachol; b. colli neu llygredigaeth o unrhyw ddata, cronfa ddata neu feddalwedd; c. unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.

 

Cyffredinol

 

16. Ni chewch drosglwyddo unrhyw rai o’ch hawliau dan y telerau ac amodau hyn i unrhyw berson arall. Efallai y byddwn yn trosglwyddo ein hawliau o dan y telerau a’r amodau hyn pan fyddwn yn credu’n rhesymol na fydd hyn yn effeithio ar eich hawliau.

 

17. Gall y telerau a’r amodau hyn gael eu hamrywio gennym o bryd i’w gilydd. Bydd telerau diwygiedig o’r fath yn berthnasol i’r wefan o’r dyddiad cyhoeddi ymlaen. Dylai Defnyddwyr wirio’r telerau a’r amodau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r fersiwn gyfredol.

 

18. Mae’r telerau a’r amodau hyn, ynghyd â’r Polisi Preifatrwydd a’r Polisi Cwcis sydd yn y cytundeb cyfan rhwng y partïon mewn perthynas â’i bwnc, yn disodli’r holl drafodaethau, cytundebau neu gytundebau blaenorol a allai fod wedi digwydd mewn perthynas â’r telerau a’r amodau.

 

19. Ni fydd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 yn berthnasol i’r telerau ac amodau hyn ac ni fydd gan unrhyw drydydd parti unrhyw hawl i orfodi na dibynnu ar unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn.

 

20. Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys yn canfod bod unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn (neu ran o unrhyw ddarpariaeth) yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, bernir bod y ddarpariaeth honno neu’r rhan o’r ddarpariaeth, i’r graddau sy’n ofynnol, wedi’u dileu, ac na fydd “Dilysrwydd a gorfodadwyedd darpariaethau eraill y telerau a’r amodau hyn yn cael eu heffeithio.

 

21. Oni chytunir fel arall, ni fydd unrhyw oedi, gweithred neu anweithred gan barti wrth arfer unrhyw hawl neu rwymedi yn cael ei ystyried fel ildio’r hawl neu’r rhwymedi hwnnw, nac unrhyw hawl neu rwymedi arall.

 

22. Bydd y Cytundeb hwn yn cael ei lywodraethu a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr a bydd pob anghydfod sy’n codi dan y Cytundeb (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau heb gontract) yn dod o dan awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.

 

Manylion Case-uk Limited  

 

23.Mae Case-uk Limited yn gwmni sydd wedi’i gorffori yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cofrestru 10175577 a’i gyfeiriad cofrestredig yw Triangle Business Centre, Triangle Business Park, Pentre-bach, Merthyr Tudful. CF48 4TAT ac mae’n gweithredu’r Wefan www.case-uk.co.uk. Y rhif TAW cofrestredig yw 249110326.

 

Gallwch gysylltu â Case-uk Limited drwy anfon e-bost at hello@case-uk.co.uk

bottom of page