top of page

Casglu eich data personol 

 

 

Gellir ymgysylltu â Case-UK Limited / CIC drwy fynychu digwyddiad, e-bost, dros y ffôn neu drwy wefan Case-UK Limited.

 

Pan fyddwch chi’n ymgysylltu ag Case-UK Limited, dim ond y wybodaeth ganlynol y byddwn ni’n ei chasglu a’i storio;

 

Eich enw, teitl eich swydd, cyfeiriad e-bost, sefydliad, dewisiadau tanysgrifio ac unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n dewis ei darparu i ni.

 

Efallai y bydd Case-UK Limited hefyd yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein negeseuon e-bost – er enghraifft, a ydych chi’n eu hagor a pha ddolenni rydych chi’n clicio arnynt, manylion pa fersiwn o borwr gwe neu system weithredu.

 

Gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio gwefan Case-UK Limited, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau i wella profiad eich defnyddiwr.

 

Os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol â sefydliadau eraill, fel yr heddlu, at ddibenion atal a chanfod troseddau.

 

Defnyddio eich data personol

 

Bydd y sail gyfreithiol dros gasglu a defnyddio’r data personol yn dibynnu ar y cyd-destun penodol mewn perthynas â’i gasglu.

 

Fodd bynnag, byddwn fel arfer yn casglu data personol gennych chi yn unig;

 

Pan fyddwn wedi cael eich caniatâd chi i wneud hynny;

 

lle bo’r prosesu er ein budd cyfreithlon ni ac nad yw eich hawliau’n chi yn drech na hynny;

 

os ydych chi wedi ymaelodi a Case-UK Limited, wedi mynychu digwyddiad Case-UK Limited, wedi tanysgrifio i dderbyn gohebiaeth Case-UK Limited neu wedi cael sgwrs e-bost â ni, rydym yn dibynnu ar sail gyfreithlon caniatâd.

 

Byddwn yn defnyddio’r data personol rydych chi wedi’i roi i ni i anfon hysbysiadau e-bost atoch chi ac i gasglu adborth er mwyn gwella ein hysbysiadau e-bost. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi o bryd i’w gilydd i wella ein gwasanaeth.

 

Os ydym yn bwriadu defnyddio unrhyw Ddata Personol mewn unrhyw ffordd nad yw’n gyson â’r Polisi Preifatrwydd hwn, byddwch yn cael gwybod am y defnydd a ragwelir cyn neu ar yr adeg y cesglir y Data Personol, neu byddwn yn cael eich caniatâd yn dilyn casgliad o’r fath ond cyn gwneud defnydd o’r fath.

 

Mae manylion am y seiliau cyfreithlon dros brosesu data personol ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth. (https://ico.org.uk/)

 

Sut rydym yn storio ac yn cadw eich data personol

 

Bydd Case-UK Limited yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen at y diben y cafodd ei gasglu.

 

Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fyddwch mewn cysylltiad rheolaidd â gohebiaeth Case-UK Limited, byddwn yn cadw eich data personol am hyd at 12 mis nes byddwn yn adolygu ein polisi preifatrwydd.

 

Bydd y data’n cael ei ddileu a’i gydnabod ar eich cais.

 

Datgelu a diogelwch eich data personol

 

Efallai y byddwn yn datgelu eich data personol i drydydd partïon pan ganiateir i ni wneud hynny, gan gynnwys:

 

Gyda’ch caniatâd chi

 

lle rydym wedi ffurfio partneriaeth â sefydliad i gyflawni prosiect, ymgyrch neu ddigwyddiad ac rydym yn gweithredu fel prosesydd;

 

Os oes gennym sail gyfreithiol dros wneud hynny;

 

os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys darparu eich data personol i sefydliadau eraill, fel yr Heddlu, at ddibenion atal a chanfod troseddau.

 

Ni fydd Case-UK Limited byth yn rhannu nac yn gwerthu eich data personol i sefydliadau eraill at eu dibenion marchnata uniongyrchol.

 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy fydd yn rhannu eich data personol a ble mae’n cael ei storio.

 

Bydd yr holl ddata personol a roddwch i ni yn cael ei storio’n ddiogel, yn ffisegol ac yn electronig, yn unol â’n polisïau. Mae gennym broses diogelu gwybodaeth ar waith i oruchwylio’r gwaith o brosesu eich data personol yn effeithiol ac yn ddiogel.

 

Hefyd, gallwn ni (neu broseswyr sy’n gweithredu ar ein rhan) storio neu brosesu eich data personol mewn gwledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond dim ond pan fyddwn yn cael sicrwydd o ddiogelwch y data. Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch technegol a sefydliadol ar waith i leihau’r posibilrwydd o golli neu fynediad heb awdurdod at eich data personol.

 

Proseswyr data ac offer swyddfa ar-lein

 

Mae Case-UK Limited yn defnyddio cwmnïau trydydd parti fel prosesyddion data i reoli a dadansoddi data’n electronig. Mae’r rhain yn cynnwys Microsoft Office 365.  Mae Case-UK Limited hefyd yn rheoli rhai o’i restrau cysylltiadau gan ddefnyddio systemau TG, sydd wedi’u storio mewn system ar-lein o’r enw OneDrive.  Pan fyddwn yn defnyddio darparwyr trydydd parti, bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i chi pan fyddwch yn tanysgrifio i’r gwasanaeth hwnnw. Mae manylion y gwasanaethau tanysgrifio i e-bost trydydd parti sy’n cael eu defnyddio’n fwy eang ar gael isod.

 

SharePoint

 

Mae Case-UK Limited yn defnyddio Microsoft Office 365’s fel cyfleuster storio diogel ar-lein sy’n cael ei ddiogelu gan gyfrinair ac sydd ond ar gael drwy dîm staff Case-UK Limited.

​

Polisi Preifatrwydd

bottom of page